Mainc Ffrindiau

	
		
	
	
	

Penderfynodd aelodau cyngor yr ysgol eu bod eisiau mainc ffrindiau.

Enw arall ar fainc ffrindiau yw ‘mainc bydis’, man arbennig ar iard yr ysgol lle gall plentyn fynd pan fydd angen siarad â rhywun neu rhywun i chwarae gyda nhw. Fel arfer mae meinciau ffrindiau’n hollol wahanol i feinciau eraill yr ysgol. Cafodd y meinciau yn Ysgol Meidrim eu gwneud gan y disgyblion gyda chymorth caredig Mr Davies, athro Dylunio a Thechnoleg o Ysgol Bro Myrddin fel rhan o brosiect PONTIO Cynradd – Uwchradd.