Ysgol Meidrim

	
		
	
	
	

CROESO I YSGOL MEIDRIM

Ysgol fach â chalon fawr

Diolch yn fawr i chi am ymweld â’n gwefan lle y cewch wybodaeth am ein hysgol.

Mae Ysgol Meidrim wedi ei lleoli ym mhentref Meidrim sydd rhwng trefi Caerfyrddin a Sanclêr. Adeiladwyd yr ysgol ym 1908, yng nghanol y pentref. Mae gennym ardal chwarae addas ar gyfer y disgyblion lleiaf `y sŵ’, yn ogystal ag iard a gardd.

Prif nodau ac amcanion Ysgol Meidrim yw:

Darparu amgylchedd dysgu hapus, diogel a chroesawgar i bob plentyn.
Hyrwyddo pleser mewn dysgu drwy adeiladau a datblygu cryfderau a thalentau unigol ein holl ddisgyblion.
Galluogi pob disgybl i ddatblygu y sgiliau, gwybodaeth a’r dealltwriaeth i fod yn ddysgwr llwyddiannus ac hyderus.
Cynnal a gwella safonau cyflawniad ein disgyblion yn ogystal â sgiliau a datblygiad proffesiynol ein holl staff
Datblygu sgiliau, gwybodaeth a’r agweddau angenrheidiol i’n disgyblion i fod yn ddinasyddion cyfrifol ac effeithiol yn eu cymuned leol yn ogystal â’r gymuned ehangach.
Sicrhau cydweithrediad, ymddiriedaeth a chefnogaeth rhwng holl aelodau cymuned ein hysgol er mwyn lles a datblygiad ein disgyblion.

Mr. Mark Ford

Pennaeth Dros Dro