Gwaith Cartref

Polisi Gwaith Cartref Ysgol Meidrim

Mae nifer o resymau pam y ceir gweithgareddau gwaith cartref:

  • I ymarfer sgiliau a ddysgir yn y gwersi.
  • I baratoi plentyn ar gyfer gwaith newydd neu i gwblhau gwaith.
  • I ymchwilio ar y wê neu mewn llyfrau neu gyda’r teulu megis rhieni, mamgu neu dadcu a ffrindiau.
  • I ddysgu gweithio’n annibynnol.

Bydd ein disgyblion yn cael gwaith cartref o’r cychwyn cyntaf.

Siarad a thrafod yw’r gweithgaredd pwysicaf y mae rheini yn medru eu gwneud gyda’u plant o’r oed ieuengaf hyd yr hynaf.

Mae rheini yn darllen storiau i’w plant yn weithgaredd pwysig iawn gan gynnwys i’r disgyblion hŷn. Mae rôl hanfodol gan rieni i wrando ar eu plant yn darllen yn gyson a rheolaidd trwy gydol yr amser maent yn yr ysgol.

Mae ymarferion rhif, yn cynnwys gwybodaeth drylwyr o’r tablau lluosi, yn dasg y mae disgwyl i’n disgyblion wneud gartref gyda’u rhieni.

Disgwylir i’r gwaith cartref gael ei wneud yn drefnus a thaclus erbyn yr amser a benodwyd. Mae diddordeb gweithredol rhieni mewn gwaith cartref eu plant yn fanteisiol iawn i’r plentyn. Mae’n rhoi cyfle i drafod, i gyd-weithio ar adegau, ac i sicrhau y cyflawniad gorau posib.

Rydym yn disgwyl ac yn gwerthfawrogi cael eglurhad oddi wrth y rhieni mewn achosion pan fo’r plentyn wedi methu cyflawni’r gwaith ar amser neu os oes rhyw broblem arall.

Mae yna ffactorau sydd yn dylanwadu ar faint a chynnwys y gwaith cartref, e.e. angen y plentyn unigol, maint y gwaith, gweithgareddau a threfn rhai diwrnodau ysgol, athrawon cyflenwi a.y.y.b.

Ar adegau penodol o’r flwyddyn, bydd mwy o weithgareddau dysgu ar y côf e.e. cyn perfformiad ysgol, Cwrdd Diolchgarwch ac Eisteddfodau.

Anogir rhieni i gysylltu â’r athrawon neu’r pennaeth os ydynt angen gwybodaeth neu arweiniad pellach ynglyn â gwaith cartref.