Ein Clybiau

Clybiau a Gweithgareddau

Mae’r plant yn ymgymryd â nifer o weithgareddau amrywiol drwy’r flwyddyn ysgol. Disgwylir i’r plant gymryd rhan a chynrychioli’r ysgol â balchder. Mae nifer o’r gweithgareddau mewn cysylltiad â’r Urdd, ac felly, mae mwyafrif o’r plant Iau wedi ymaelodi â’r mudiad.

Perfformir cyngherddau tymhorol gan y disgyblion e.e. i’r Henoed yn ystod y Nadolig a Diolchgarwch.

Gwersyll yr Urdd Llangrannog

Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn cael cyfle i fynychu’r gwersyll a lletya am gyfnod er mwyn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau anturus a gweithgareddau awyr agored drwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg.

Codir tâl am y cwrs, a rhoddir cyfle i rieni dalu’n wythnosol tuag at y costau sy’n cynnwys aros yn y gwersyll, 4 pryd o fwyd y dydd, cludiant a hyfforddiant yn y gweithgareddau – sgïo, nofio, marchogaeth a.y.y.b. Mae’r cwrs hwn, yn ogystal â bod yn addysgiadol, wedi profi’n gyfle gwerthfawr i’r disgyblion gyfnewid profiadau, dysgu bod yn annibynnol, meithrin dinasyddiaeth a gofalu am eraill.

Medrusrwydd Beicio

Mae Cymdeithas Diogelwch y Ffordd Sir Gaerfyrddin mewn partneriaeth â’r ysgol yn rhoi gwersi `Diogelwch ar y Beic’ yn ogystal â threfnu cwis ar Ddiogelwch y Ffordd.

Cynllun Gwenu

Mae gweithgaredd glanhau dannedd, gyda’r nod o wella iechyd deintyddol y plant, yn cymryd lle am 1.00 o’r gloch ar ôl cinio. Mae’r rhaglen yn cael ei threfnu mewn ffordd ddiogel ac effeithiol a chaiff ei goruchwylio gan y staff. Mae gan bob plentyn frws dannedd unigol adnabyddadwy ei hunan. Mae’n rhaid cael caniatâd rhiant cyn y medr plant gymryd rhan yn y rhaglen hon.

Clwb Brecwast

Mae clwb brecwast rhad ac am ddim ar gael i’r disgyblion o 8.00 i 8.30 y.b. Mae angen cofrestru ac mae rheolau’r ysgol yn berthnasol yn ystod y cyfnod hwn.

Atgoffir rhieni nad ydynt yn defnyddio’r clwb bod cyfrifoldeb yr ysgol am y plant yn cychwyn 15 munud cyn amser swyddogol dechrau’r ysgol. O ran safbwynt diogelwch, ni ddylai plant sydd heb gofrestru gyda’r clwb brecwast gyrraedd yr ysgol tan 8.45 y.b.

Clwb ar ôl Ysgol

Cynhelir Clwb ar ôl Ysgol i blant o oedran ysgol gynradd bob dydd Mawrth, Mercher a Iau yn ystod tymor ysgol o 3.30 i 5.15 y.h. Gofynnir yn garedig o gyfraniad o £3.00 am bob sesiwn.